Your browser version is outdated. We recommend that you update your browser to the latest version.

    

Cliciwch ar y linc ar gyfer munudau cyfarfod diwethaf yma

 

 

Please click on the link to access the minutes for the last meeting  here

 

 

Cynhelir cyfarfod nesaf o Gyngor Cymuned Abernant ar nos Iau, 5ed o Fedi 2024  am 7.30yh yn Neuadd Talog 

 

 

The next meeting  of Abernant Community Council will be held on Thursday evening, 5th of September 2024, 7.30pm at Talog Hall 

 

 

 

 

Cyngor Cymuned Abernant Community CouncilCyngor Cymuned Abernant Community Council

Cyngor Cymuned Abernant Community Council 

Gwybodaeth am Yr Ardal

Mae gennym fel cymuned 25 o lwybrau cyhoeddus ag un llwybr ceffylau (bridleway)

Mae tua 120 o gartrefi yn y gymuned gyda ychydig llai na 300 o etholwyr. A  safle gorsaf bleidleisio'r gymuned yw'r neuadd yn Nhalog.

Capeli o fewn y gymuned:

CAPEL BETHANIA, TALOG

CAPEL BWLCHNEWYDD

CAPEL CENDY, ABERNANT

Information on the Area

We have as a community 25 public paths and one bridleway

There are approximately 120 homes in the community with just under 300 constituents. The community polling station is the Hall in Talog.

Chapels in the community:

BETHANIA, TALOG

BWLCHNEWYDD

CAPEL CENDY, ABERNANT

HANES TALOG.

Ym 1836, dechreuodd pentref Talog ymddatblygu, pan sefydlodd Thomas Thomas siop yno. (sy’n dal i fod ar agor heddiw). Daeth y gymuned yn adnabyddus hefyd oherwydd ei chysylltiad a’r protestiadau yn erbyn codi tollbyrth ar draws heolydd yr ardal, sef ‘Torfysg Beca’.

Ym 1843, roedd tri o brotestwyr amlwg yn byw yn Nhalog. Thomas Thomas, y siopwr, John Harries, Y Felin, a Sam Brown, ffarmwr ym Mrynmeini, Talog. Gydag amser roedd rhaid iddynt gyfri am eu troseddau, a chawsant eu dirwyo am wrthod talu tollau tolldy Heol Dwr, Caerfyrddin. Gwrthododd John Harries, Y Felin, dalu ei ddirwy ac anfonwyd 4 constwbl, 10 constwbl arbennig a 28 o filwyr ymddeoledig a atafaelu celfi o’i dy am 5 o’r gloch y bore. Ond ar ganiad corn hela, ymddangosodd ‘Beca’ gyda 40 o’i merched, eu hwynebau wedi’u duo. Ymosodasant ar yr heddweision, eu curo a’u danfon yn ol i Gaerfyrddin, gan saethu ergydion dros eu pennau. Ar Fawrth 12fed, 1844, cafwyd John Harries ac wyth o ddynion eraill o ardal Talog yn euog o’r ‘Terfysg yn Nhalog’.

Yn ystod y cyfnod cythryblus hwnnw, codwyd digon o arian gan Thomas Thomas, ei gyfeillion a gweinidogion lleol y Bedyddwyr, i adeiladu Capel Bethania ym 1839. Gwelir hen fedyddfan y capel o hyd rhai cannoedd o lathenni o’r neuadd y pentref, er nad yw yn cael ei ddefnyddio bellach.


Tua 1910, codwyd pabell fawr ar safle neuadd y pentref ar gyfer cynnal eisteddfodau a chyngherddau. Ym 1920 gwnaeth un o ddisgynyddion Thomas Thomas drefnu prynu neuadd bren ail-law oddi wrth Swyddfa’r Rhyfel yn Sir Fynwy. Daethbwyd a’r neuadd ar y tren mor bell a Chynwyl Elfed, oc oddi yno ar dractor stem a wagenni, a roddwyd yn rhad ac am ddim gan wr busnes lleol. Ailgodwyd y neuadd ar sylfaen goncrit. Daeth yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol y fro.

TALOG HISTORY.

In 1836, the hamlet of Talog rose in importance as a community, when Thomas Thomas arrived to establish a village stores, (which is still in the village today). The hamlet was also to become known for its association with the series of protests against the creation of tollgates in the area, which were to become known as the ‘Rebecca Riot’.

 
In 1843, three of the ‘leading lights’ were from Talog, namely, Thomas Thomas, the shopkeeper, John Harries, The Mill, and Sam Brown, farmer at Brynmeini, Talog. They were eventually brought to account, and fined for refusing to pay the toll at Water Street tollgate, in Carmarthen. John Harries, The Mill, refused to pay his fine and 4 constables, 10 special constables and 28 army pensioners were sent to seize his furniture at 5 o’clock in the morning. At the blast from the horn, Rebecca appeared with 40 men with blackened faces, who overpowered the police and sent them back to Carmarthen, firing shotguns above their heads. Eventually, on the 12th March 1844, John Harries and eight other Talog men were convicted of ‘Riot at Talog’.

During these turbulent times, Thomas Thomas, together with friends and local Baptist ministers, raised sufficient money to build Bethania Chapel in 1839. It’s baptismal chamber is still in existence, but no longer used, and is a few hundred yards from the village hall.

Around 1910, the community erected a marquee on the site of the village hall, which was used for eisteddfodau and concerts, and in 1920, a descendant of Thomas Thomas arranged, with a committee, to purchase a second hand wooden hall from the War Department in Monmouth. This was bought, dismantled, transported by rail to Conwil Elfed, and then brought to Talog using a traction engine and wagons, which were provided free of charge by a local businessman. The community re-erected it on a concrete base, where it became a focal point for local activities.